Clic Cymru

PUFFIN HOLIDAY COTTAGES

Gwefan & Pecyn Brandio

Fe'm comisiynwyd gan Puffin Holiday Cottages i ddatblygu gwefan a brand ar gyfer busnes hollol newydd.

Mae'r wefan yn cynnwys delweddau syfrdanol gyda pheiriant chwilio wedi'i ymgorffori ar gyfer lleoli eu llety gwyliau. Mae'r wefan hefyd yn gweithredu peiriant archebu gydag opsiynau talu diogel o nifer o ffynonellau fel Visa, Mastercard, Google Pay ac Apple Pay.

Yn ychwanegol i weithio gyda'r cwmni yma ar eu gwefan , cawsom hefyd y cyfle i arddangos rhai o'n set sgiliau fideograffeg trwy gynhyrchu fideo ar gyfer eu hymgyrch hysbysebu fel y gwelwch isod.

Ewch i'r gwefan

Dyma'r logo orffenedig fel rhan o'r pecyn brandio i'r cleient.

Penderfynwyd optio am balet lliw soffistigedig gyda ffont moethus. Trwy gydol y broses yma roedd yn bwysig i ni geisio cadw'r steil yn un cyfeillgar a chysurus er mwyn cyd-fynd gydag ethos y cwmni.

A-Z PAINTING

Gwefan & Pecyn Brandio

Comisiynwyd gan A-Z Painting i ddarparu gwefan deinameg newydd yn ogystal a phecyn brandio a logo newydd.

Ar gyfer y cwmni peintio ac addurno yma penderfynwyd optio am wefan glan a chlir er mwyn adlewyrchu safon eu gwaith addurno.

Mae'r gwefan wedi ei gysylltu gyda cyfeiriadur busnes Yell.com er mwyn gallu mewnforio adolygiadau newydd a'u arddangos ar y gwefan. Mae'r gwefan hefyd yn cynnwys galeri lluniau sydd wedi ei gysylltu gyda Facebook er mwyn symleiddio y proses o gyhoeddi lluniau newydd i'r cleient.

Cewch weld y gwefan llawn isod.

Ewch i'r gwefan

Wrth drafod anghenion y cleient penderfynwyd optio am logo syml oedd yn ymgorffori rhai o'r elfennau dylunio gwreiddiol. Bu'r cleient optio am logo wedi ei animeiddio hefyd er mwyn gallu tynnu sylw i'r busnes ar y cyfryngau cymdeithasol.