Bu i ni gydweithio yn agos gyda The Order of The Skulls er mwyn gwireddu eu syniadau ar gyfer y prosiect NFT cyffroes yma.
Ni oedd yn gyfrifol am ddatblygu eu holl gynnwys digidol yn Cinema 4D ac yna yn gyfrifol am lwytho (mint) y casgliad llawn o NFT's ar y Solana blockchain. Roeddem yn ffodus iawn i ennill gwbor 'Hot New Artist' ar brif dudalen gwefan Solsea.
Y cam nesaf i ni wedyn oedd eu helpu gyda eu hymgyrch cyfryngau cymdeithasol ynghyd a dylunio ac adeiladu eu Gwefan. Cewch weld y Gwefan isod.
Roedd hwn yn brosiect cyffroes i bawb yma yn Clic Cymru. Cafwyd y cyfle i ddefnyddio nifer fawr o'n sgiliau digidol yn y maes celf digidol newydd, cyffroes yma.
Os rydych angen help gyda'ch prosiect digidol arloesol newydd byddwn wrth ein boddau yn clywed gennych.
Comisiynwyd gan A-Z Painting i ddarparu gwefan deinameg newydd yn ogystal a phecyn brandio a logo newydd.
Ar gyfer y cwmni peintio ac addurno yma penderfynwyd optio am wefan glan a chlir er mwyn adlewyrchu safon eu gwaith addurno.
Mae'r gwefan wedi ei gysylltu gyda cyfeiriadur busnes Yell.com er mwyn gallu mewnforio adolygiadau newydd a'u arddangos ar y gwefan. Mae'r gwefan hefyd yn cynnwys galeri lluniau sydd wedi ei gysylltu gyda Facebook er mwyn symleiddio y proses o gyhoeddi lluniau newydd i'r cleient.
Wrth drafod anghenion y cleient penderfynwyd optio am logo syml oedd yn ymgorffori rhai o'r elfennau dylunio gwreiddiol. Bu'r cleient optio am logo wedi ei animeiddio hefyd er mwyn gallu tynnu sylw i'r busnes ar y cyfryngau cymdeithasol.